Home
About Us
Q & A
What's New
Events
Best Practice Guidance
Feedback
Gwasanaeth Cyngor
  

Cyngor Cynghori ar Reoleiddio a Llywodraethu

Adnawdd ar draws y DU ar gyfer pobl sy’n ymwneud ag ymchwil iechyd (gan gynnwys astudiaethau heb bortffolio) yw'r Cyngor Cynghori ar Reoleiddio a Llywodraethu (Ymchwil a Datblygu) yr UKCRC. Nod y Gwasanaeth Cynghori yw darparu cyngor awdurdodol a chyson ar nifer o faterion rheoleiddio a llywodraethu, yn bennaf i gefnogi darparwyr lleol o gyngor, megis adrannau ymchwil a datblygu’r GIG a rheolwyr ymchwil prifysgolion. Mae’r Gwasanaeth Cynghori’n gwneud hyn drwy ddarparu:

  • Llwybr ar gyfer ymdrin ag ymholiadau cymhleth, fel y rhai sy’n ymwneud â mwy nag un mater rheoleiddio
  • Mae’r gwasanaeth rheoleiddio a llywodraethu’n cynnig gwasanaeth dwyieithog i bobl yng Nghymru. I anfon ymholiad yn y Gymraeg, a fyddwch cystal â defnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol, gan roi eich manylion cysylltu a disgrifiad byr o’ch ymholiad: rgadvice@ukcrc.org
  • Adnoddau ar-lein er enghraifft Pecynnau Cymorth a Chwestiynau ac Atebion
  • Pecyn Cymorth Treialon Clinigol
  • Pecyn Cymorth Data a Meinwe (yn cael ei ddatblygu)
  • Pecyn Cymorth Meddygaeth Arbrofol (yn cael ei ddatblygu)
  • Safle Cwestiwn ac Ateb

Dylai ymchwilwyr sydd ag ymholiadau barhau i gysylltu â'r brifysgol leol neu â'u swyddfa ymchwil a datblygu GIG lleol yn y lle cynaf, ac wedyn defnyddio'r adnoddau ar-lein.

Cydgysylltiad a chefnogaeth

Mae cyflawni Gwasanaeth Cyngor ar Reoleiddio a Llywodraethu’r UKCRC yn cael ei gydgysylltu gan UKCRN a Chanolfan Gymorth Reoleiddiol MRC, ac mae rhwydwaith o asiantaethau rheoleiddio, cyrff llywodraethu a llunwyr polisi'n ei gefnogi.

Cefnogir y Gwasanaeth Cynghori gan Rwydwaith Cynghori, sy’n cynnwys aelodau o Asiantaethau Rheoleiddio, cyrff llywodraethu a llunwyr polisi’r DU, gan gynnwys:

  • Swyddfa’r Prif Wyddonydd (CSO)
  • Yr Adran Iechyd (DH)
  • Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cleifion yng Ngogledd Iwerddon (DHSSPSNI)
  • Fforwm GIG Cymru ar gyfer Rheolaeth Ymchwil a Datblygu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (FORWARD)
  • Pwyllgor Cynghori ar Therapi Genynnol
  • Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA)
  • Yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA)
  • Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
  • Fforwm Ymchwil a Datblygu’r GIG
  • Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Cenedlaethol (NRES) (COREC gynt)
  • Grwp Cynghori ar Wybodaeth Cleifion (PIAG)
  • Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC)
  • Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae aelodau’r Rhwydwaith Cynghori’n darparu cyngor awdurdodol i'r tîm cydgysylltu o ran datrys ymholiadau a blaenoriaethu ymholiadau'n uniongyrchol drwy'r Gwasanaeth Cynghori.

Peilot ac estyniad ledled y DU

Sefydlwyd y Gwasanaeth Cynghori ym mis Medi 2006 gyda phrosiect peilot. Cynhaliwyd hwn yn y mannau canlynol:

  • Nottingham
  • Manceinion
  • Yr Alban
  • Southampton
  • Cymru
  • Mewn rhai Unedau Treial Clinigol yn gysylltiedig â Rhwydweithiau Ymchwil Topig Penodol yr UKCRN
  • Mewn rhai Unedau Ymchwil MRC

Mae'r Gwasanaeth Cynghori’n ehangu, dros gyfnod, ar draws y DU o Ebrill-Mehefin 2007 a bydd nifer o sioeau teithiol.

Mae rhagor o wybodaeth ar y cefndir i'r Gwasanaeth Cynghori ar gael ar brif wefan yr UKCRC.